ED3S032W - Dysgu a datblygiad proffesiynol (profiad ysgol) 3 01 Sep 2019 - 31 Aug 2027 | Version 1

Associated Module Information

Module Code: ED3S032W
Module Title: Dysgu a datblygiad proffesiynol (profiad ysgol) 3
Faculty: Faculty of Life Sciences and Education
Faculty Group: ITE and Education Practice
Faculty Sub Group: Initial Teacher Education
Module Leader: Christopher Williams
Module Team: Sallyann Seaward, Jon Moody, Catrin Devonald
First Intended Intake: SEP 2019 Final Year of Intake: 2024
Date Closed:
Credit Value: 20 Credit Level: 6
Language: Welsh
Percentage of Module Taught in Welsh: 100
Equivalent Module:
HECOS codes: 100511 - primary teaching
HECOS Code Weighting: 100

Document Version Information

Version 1
Valid From 01 Sep 2019
Valid To 31 Aug 2027

Module Aims

Bod yn ymwybodol o gontinwwm datblygiad personol a phroffesiynol.

Datblygu a dangos nodweddion arweinyddiaeth effeithiol o fewn lleoliadau ysgol.

Cynllunio a datblygu ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth drwy ymholi, i godi cyrhaeddiad disgyblion.

Atgyfnerthu cadernid academaidd a dangos gwybodaeth am dwf meddylfryd a dysgu sy'n seiliedig ar gryfderau.

Atgyfnerthu a mireinio gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau athrawon dan hyfforddiant mewn perthynas â'u rolau a'u cyfrifoldebau a chyfrannu at gyflawni Safonau Addysgu ar gyfer Statws Athro Cymwysedig a nodwyd yn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth (LlC, 2017).

Content Summary

Bydd Profiad Ysgol ym Mlwyddyn 3 yn cynnwys bloc o wyth wythnos yn yr ysgol i alluogi athrawon dan hyfforddiant i ddangos cynnydd cyson tuag at gaffael y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, 2017. Bydd bloc arall o bedair wythnos yn ddiweddarach yn y flwyddyn, lle bydd athrawon dan hyfforddiant yn ymgymryd â'r prosiect ymchwiliad gweithredol a amlinellir uchod yn y modiwl Astudiaethau Pwnc 3A. Mae'r bloc olaf hwn o ymarfer mewn ysgolion hefyd yn rhoi cyfle i athrawon dan hyfforddiant astudio mewn lleoliad tramor.

Yn y modiwl hwn, mae athrawon dan hyfforddiant yn datblygu ac yn mireinio ymhellach eu dealltwriaeth o bolisïau ysgol allweddol sy'n ymwneud â blaenoriaethau cenedlaethol megis diogelu, iechyd a diogelwch, rheoli ymddygiad, asesu/marcio, llesiant, y Cwricwlwm Cymreig, Cymhwysedd Digidol, gwahaniaethu, rhifedd a llythrennedd, a dod yn gyfarwydd â rolau arweinwyr dysgu.

Bydd athrawon dan hyfforddiant yn cynllunio dilyniannau o sesiynau ac yn cyd-gyflwyno sesiynau dysgu ac addysgu gyda mentoriaid a thiwtoriaid Prifysgol yn dilyn fformat a nodwyd yn Llawlyfr Profiad Ysgol PDC. *Bydd athrawon dan hyfforddiant yn addysgu'r dosbarth cyfan neu grwpiau yn ôl y gofyn ac yn dangos lefel o gymhwysedd ychwanegol wrth reoli oedolion o fewn yr amgylchedd dysgu.

Ar gyfer gwersi cynlluniedig, bydd athrawon dan hyfforddiant yn paratoi adnoddau gwahaniaethol i gymell, ymgysylltu a herio disgyblion ac i gefnogi eu dysgu. Byddan nhw'n dewis ac yn defnyddio adnoddau a gynhyrchwyd yn broffesiynol fel y bo'n briodol.

Gyda chymorth mentor/tiwtor, bydd athrawon dan hyfforddiant yn rhoi adborth cadarnhaol a defnyddiol ar lafar ac yn ysgrifenedig i ddysgwyr, yn ôl eu hangen a'u cam datblygu.

Bydd athrawon dan hyfforddiant yn ymgymryd â sawl gweithgaredd yn ogystal ag addysgu, gan gynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu a ysgogir gan yr athro, arsylwi ar athrawon, dysgwyr a gweithwyr proffesiynol eraill, gan ddatblygu ymhellach eu menter a'u hymreolaeth.

Bydd athrawon dan hyfforddiant yn olrhain cynnydd dysgwyr sy'n cynrychioli ystod gallu o fewn y lleoliad a byddant yn cyfrannu at lunio adroddiadau statudol i rieni/gofalwyr gan ddefnyddio fformatau priodol.

Gan ddangos annibyniaeth, bydd athrawon dan hyfforddiant, er enghraifft, yn rhyngweithio â gweithwyr proffesiynol ac oedolion eraill sy'n ymwneud â'r broses ddysgu a, lle bo'n briodol, yn arwain ar ddefnydd effeithiol ohonynt.

Bydd athrawon dan hyfforddiant yn cefnogi athrawon yng ngweithgareddau ehangach yr ysgol megis goruchwylio amseroedd egwyl, cofrestru disgyblion, arwain gweithgareddau allgyrsiol, mynychu cyfarfodydd staff a chyfarfodydd ymgynghori â rhieni a, lle y bo'n bosibl, cyfleoedd dysgu a datblygu proffesiynol.

Bydd athrawon dan hyfforddiant yn gwerthuso yn ystod ac ar ôl mewnbynnau addysgu, gan nodi cyflawniadau dysgwyr a meysydd i'w datblygu; cryfderau addysgu a meysydd i'w datblygu; a goblygiadau ar gyfer addysgu a dysgu yn y dyfodol yn dilyn asesiad crynodol yn erbyn meincnodau statudol.

Bydd yn ofynnol i athrawon dan hyfforddiant goladu tystiolaeth o gaffael y
Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth (LlC, 2017), a adolygir drwy gydol y flwyddyn.

Learning and Teaching Methods

Activity Type Hours
Independent Study 130
Directed Study 40
Active/Simulation Based 30
Total Hours Selected 200

Learning Outcomes

# Learning Outcome
LO1 Gwerthuso’n feirniadol flaenoriaethau cenedlaethol a senarios cysylltiedig ag ysgol gan gyfeirio at y Safonau a nodwyd yn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth (LlC, 2017) a bodloni'r safonau ar gyfer SAC.
LO2 Dangos dealltwriaeth glir, dadansoddol a beirniadol o ymholi gweithredol a sut y gellid ei reoli fel rhan o ddysgu myfyriol, gydol oes.

Module Requisites

N/A

Assessment Criteria

Assessment Category Assessment Type Description Duration Word Count Weight (%) Best of? Pass Mark
Practical Assessment (CW) Practical Coursework 1 Asesiad ymarferol yn seiliedig ar y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, 2017. 0 3000 100 No 100

Assessment Matrix

Assessment Type Learning Outcomes
LO1 LO2
Practical Coursework 1

Reading List

Costello, P. (2011) Effective action research: developing reflective thinking
and practice. London: Continuum.

Dweck, C. (2017) Mindset: changing the way you think to fulfil your potential. Updated edn. New York: Ballantine Books.

Forster, C. and Eperjesi, R. (2017) Action research for new teachers: evidence-based evaluation of practice. London: SAGE.

Fullan, M. (2014) The Principal: three keys to maximizing impact. San Francisco: Jossey-Bass.

Hattie, J. (2012) Visible learning for teachers: maximizing impact on learning. Abingdon: Routledge.

Hord, S. (2008) Leading Professional Learning communities- voices from
Research and practice. Thousand Oaks, CA: Corwin Press.

McNiff, J. (2016) You and your action research project. 4th edn. London:
Routledge.

Pollard, A. (ed) (2010) Professionalism and Pedagogy: A contemporary
opportunity. A commentary by TLRP and GTCE, London: TLRP.

Syed, M. (2011) Bounce: The Myth of Talent and the Power of Practice. London: Fourth Estate.

Whitaker, T. (2012) What Great Teachers Do Differently: 17 Things That Matter Most. 2nd edn. Abingdon: Routledge.

Journals

British Educational Research Journal
Early years: an international journal
Education 3-13
Educational Action Research
Professional Development in Education
Teaching and Teacher Education

Web Sites
Education Workforce Council, Wales. Available at: http://www.ewc.wales/site/index.php/en/ (Accessed 1 March 2019)

Estyn. Available at: http://www.estyn.gov.uk (Accessed 1 March 2019)

Times Educational Supplement. Available at: https://www.tes.com/ (Accessed 1 March 2019)

Relevant policies, guidelines and standards from the Welsh Government, Estyn and other official agencies will also form part of the reading list.