ED3T004W - Y cwricwlwm a phrofiad ysgol – gwreiddio egwyddorion addysgegol 01 Sep 2022 - 31 Aug 2027 | Version 1
Associated Module Information
| Module Code: | ED3T004W | ||
|---|---|---|---|
| Module Title: | Y cwricwlwm a phrofiad ysgol – gwreiddio egwyddorion addysgegol | ||
| Faculty: | Faculty of Life Sciences and Education | ||
| Faculty Group: | Education, Early Years and Social Work | ||
| Faculty Sub Group: | Education | ||
| Module Leader: | Christopher Williams | ||
| Module Team: | Claire Pescott, Catrin Devonald, Sharon Phillips, Wendy-Lee Jones, Sarah Cook, Rachel Ford, Judith Penny, Sallyann Seaward, Jon Moody, Gareth Watkins | ||
| First Intended Intake: | SEP 2022 | Final Year of Intake: | |
| Date Closed: | |||
| Credit Value: | 60 | Credit Level: | 6 |
| Language: | Welsh | ||
| Percentage of Module Taught in Welsh: | 50 | ||
| Equivalent Module: | |||
| HECOS codes: | 100511 - primary teaching | ||
| HECOS Code Weighting: | 100 | ||
Document Version Information
| Version | 1 |
|---|---|
| Valid From | 01 Sep 2022 |
| Valid To | 31 Aug 2027 |
Module Aims
Deall continwwm datblygiad personol a phroffesiynol.
Datblygu ac arddangos rhinweddau arweinyddiaeth effeithiol o fewn lleoliadau ysgol.
Dylunio a datblygu arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth trwy ymholi, i godi cyrhaeddiad disgyblion trwy astudiaethau pwnc a datblygu’r Gymraeg.
Ymestyn ymhellach sgiliau personol, gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr o ddysgu ac addysgu’r Gymraeg a’r Cwricwlwm Cymreig.
Mireinio a defnyddio dealltwriaeth ymarferol i gyffroi ac ysbrydoli dysgwyr trwy ddulliau thematig a phrofiadau dysgu dilys.
Galluogi athrawon dan hyfforddiant i werthuso'n feirniadol a chymhwyso syniadau craidd sy'n berthnasol i addysg, gan gynnwys asesu, Anghenion Dysgu Ychwanegol, llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, i'w ffordd o feddwl am eu harfer yn yr ystafell ddosbarth.
Atgyfnerthu gwydnwch academaidd a dangos gwybodaeth am feddylfryd twf a dysgu seiliedig ar gryfderau.
Mynd i’r afael â’r heriau sy’n gysylltiedig â chynllunio’r cwricwlwm a sut y caiff hyn ei asesu a phwysigrwydd teilwra hyn er mwyn bodloni anghenion dysgwyr.
Atgyfnerthu a mireinio gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau athrawon dan hyfforddiant mewn perthynas â’u rolau a’u cyfrifoldebau a chyfrannu at gyflawni safonau addysgu ar gyfer Statws Athro Cymwysedig a nodir yn y Safonau Proffesiynol ar gyfer arweinyddiaeth addysgu (LlC, 2017).
Gweithio ar y cyd ag eraill i gyfrannu at gyflawni’r disgrifyddion ar gyfer Statws Athro Cymwysedig a nodir yn y Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth (Llywodraeth Cymru, 2017).
Content Summary
Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar athrawon dan hyfforddiant yn datblygu eu sgiliau addysgu ymarferol a phrofi a datblygu eu damcaniaethau personol eu hunain o addysgu a dysgu trwy:
Datblygu a mireinio eu dealltwriaeth o bolisïau ysgol allweddol sy’n ymwneud â blaenoriaethau cenedlaethol megis diogelu, iechyd a diogelwch, rheoli ymddygiad, asesu/marcio, lles, y Cwricwlwm Cymreig, cymhwysedd digidol, gwahaniaethu, rhifedd a llythrennedd, a dod yn gyfarwydd â’r rolau arweinwyr dysgu.
Cynllunio dilyniannau o wersi a chyd-gyflwyno sesiynau dysgu ac addysgu gyda mentoriaid a thiwtoriaid prifysgol. Bydd athrawon dan hyfforddiant yn cymryd cyfrifoldeb llawn am ddosbarthiadau ar sail raddedig. Yn ystod profiad ysgol 1 a 2, ni fydd athrawon dan hyfforddiant yn addysgu mwy nag amserlen o 30% yn gyffredinol. Yn ystod profiad ysgol 3 (arbenigedd) ni fyddant yn addysgu amserlen fwy na 75%.
Trwy astudiaethau pwnc ymarferol ar y campws a datblygiad y Gymraeg bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i:
• Paratoi adnoddau gwahaniaethol i gymell, ennyn diddordeb a herio disgyblion ac i gefnogi eu dysgu. Bydd athrawon dan hyfforddiant yn dewis ac yn defnyddio adnoddau a gynhyrchwyd yn broffesiynol fel y bo'n briodol
• Rhoi adborth llafar ac ysgrifenedig cadarnhaol a defnyddiol i ddysgwyr, yn unol â'u hanghenion a'u cyfnod datblygu
• Ymgymryd â nifer o weithgareddau yn ogystal ag addysgu, gan gynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu a gychwynnir gan athrawon, arsylwi athrawon, dysgwyr a gweithwyr proffesiynol eraill, gan ddatblygu eu menter a'u hannibyniaeth ymhellach
• Olrhain cynnydd dysgwyr sy'n cynrychioli ystod o allu o fewn y lleoliad a chyfrannu at gynhyrchu adroddiadau statudol i rieni/gofalwyr gan ddefnyddio fformatau priodol
• Dangos annibyniaeth, er enghraifft, rhyngweithio â gweithwyr proffesiynol eraill ac oedolion sy'n ymwneud â'r broses ddysgu a, lle bo'n briodol, arwain ar eu defnyddio'n effeithiol
• Datblygu sgiliau arwain. Dangos dealltwriaeth ddyfnach o'r cysyniad o les trwy nodi a rheoli systemau sy'n ymwneud â rheoli llwyth gwaith yn effeithiol
• Arfarnu mewnbwn yn ystod ac ar ôl addysgu, gan nodi cyflawniadau dysgwyr a meysydd i'w datblygu; cryfderau addysgu a meysydd i'w datblygu; a goblygiadau ar gyfer addysgu a dysgu yn y dyfodol yn dilyn asesiad crynodol yn erbyn meincnodau statudol
• Coladu tystiolaeth o gynnydd tuag at ddisgrifyddion SAC y Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth (LlC, 2017), yn eu Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) a gaiff ei adolygu drwy gydol y flwyddyn
• Archwilio damcaniaethau ac ymchwil am addysgeg a datblygiad dynol, gan gynnwys goblygiadau i hunaniaeth, gwerthoedd ac ethos proffesiynol athro dan hyfforddiant
• Ymdrin â deddfwriaeth gyfredol, gan gynnwys dealltwriaeth o'r Cwricwlwm Cymreig a gofynion iaith Gymraeg
• Deall gofynion amrywiol a chystadleuol ymarfer athrawon, gan gynnwys ymgysylltu'n ystyrlon ac yn adeiladol â diwygio
• Dod yn gyfarwydd â chyfrifoldebau cytundebol, bugeiliol a chyfreithiol athrawon gan gynnwys gweithdrefnau diogelu
• Dadansoddi effaith addysgeg nodweddiadol a chymhwyso egwyddorion addysgeg i adeiladu gwybodaeth am gynnwys addysgeg a gwybodaeth dechnolegol am gynnwys addysgegol
• Ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â chydbwyso rhyddid proffesiynol ac atebolrwydd wrth weithio gyda chwricwlwm sy'n seiliedig ar bwrpasau a pha mor ganolog yw lles i ddysgu ac addysgu effeithiol
Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar athrawon dan hyfforddiant yn datblygu eu sgiliau addysgu ymarferol a phrofi a datblygu eu damcaniaethau personol eu hunain o addysgu a dysgu mewn:
• Rôl llais y dysgwr wrth gyflawni pedwar diben y cwricwlwm ac mewn materion sy'n ymwneud â'u bywydau
• Damcaniaethau rheoli'r amgylchedd dysgu i gefnogi dysgwyr i wneud cynnydd effeithiol
• Arfer da sy'n dod i'r amlwg wrth hyrwyddo creadigrwydd; astudio amrywiaeth o faterion yn ymwneud â chreadigedd gan gynnwys dysgu, addysgu ac asesu a gwella parhaus
• Ystod o ddulliau cyfathrebu effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth (gan gynnwys cwestiynu) i gymell ac ysbrydoli pob dysgwr
• Ystod o ddefnyddiau effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth o dechnolegau digidol i gefnogi a gwella dysgu ac addysgu
• Ystod o strategaethau effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ddefnyddio siarad yn yr ystafell ddosbarth i ysgogi cyfranogiad dysgwyr mewn dadl a phenderfyniadau am yr hyn y maent yn ei ddysgu a sut
• Cydweithio â chydweithwyr i wella canlyniadau i ddysgwyr
• Ystod o ddibenion ac arferion ar gyfer asesu sy'n briodol i anghenion pob dysgwr a gofynion y cwricwlwm, gan gynnwys asesu effeithiol o ddysgu ac ar gyfer dysgu
• Strategaethau effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer cofnodi ac adrodd ar gynnydd dysgwyr
• Strategaethau effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer cyfathrebu data asesu a data perfformiad arall yn briodol i ddysgwyr, eu rhieni/gofalwyr a chydweithwyr addysgu
• Defnydd systematig o ddata i werthuso effaith ac effeithiolrwydd profiadau dysgu ac i lywio cynllunio ar gyfer y dyfodol
• Corff systematig a chydlynol o wybodaeth o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad penodedig, gan ymgysylltu â'r cydweithwyr hynny sy'n arwain datblygiad y cwricwlwm mewn ysgolion
• Gweithio'n greadigol ac ar y cyd ar draws ffiniau pwnc, yng nghyd-destun y pedwar diben i gefnogi dysgwyr i wneud cysylltiadau ar draws eu dysgu
• Strategaethau effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ddefnyddio sgiliau llythrennedd, gwybodaeth a dealltwriaeth i gefnogi a datblygu dealltwriaeth dysgwyr o feysydd dysgu eraill
• Strategaethau effeithiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddefnyddio sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth rhifedd i gefnogi a datblygu dealltwriaeth dysgwyr o’u dysgu
• Strategaethau effeithiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddefnyddio cymhwysedd digidol, gwybodaeth a dealltwriaeth i gefnogi a datblygu dealltwriaeth dysgwyr o’u dysgu
Learning and Teaching Methods
| Activity Type | Hours |
|---|---|
| Lecture | 76 |
| Seminar | 68 |
| Tutorial | 8 |
| Project supervision | 24 |
| Practical classes and workshops | 18 |
| External visits | 8 |
| Work based learning | 24 |
| Independent Study | 240 |
| Directed Study | 73 |
| Formative Assessment - Scheduled | 1 |
| Formative Assessment - Independent | 60 |
| Total Hours Selected | 600 |
Learning Outcomes
| # | Learning Outcome |
|---|---|
| LO1 | Arfarnu’n feirniadol flaenoriaethau cenedlaethol a senarios cysylltiedig mewn ysgolion gan gyfeirio at y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth (LlC, 2017) a chyflawni’r safonau ar gyfer SAC. |
| LO2 | Dangos dealltwriaeth glir, ddadansoddol a beirniadol o ymarfer myfyriol a sut mae'n cyfrannu at ddysgu gydol oes effeithiol. |
| LO3 | Dadansoddi eich perfformiad eich hun yn feirniadol, gan ganfod cryfderau presennol a meysydd i'w datblygu, a chynhyrchu cynllun gweithredu ystyrlon a phroffesiynol ar gyfer cynnydd yn y dyfodol. |
| LO4 | Dangos cynnydd clir a pharhaus yn eu sgiliau iaith Gymraeg personol, gan gynllunio'n briodol ar gyfer maes WLD. Tystiolaeth o ystod o strategaethau dysgu ac addysgu effeithiol, gan ddangos ymwybyddiaeth o ddatblygiadau cyfredol yn y maes hwn. |
Module Requisites
N/A
Assessment Criteria
| Assessment Category | Assessment Type | Description | Duration | Word Count | Weight (%) | Best of? | Pass Mark |
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Asynchronous Assessment | Practical Coursework 3 (Asynch) | • Pasbort Dysgu Proffesiynol: Asesiad ymarferol yn seiliedig ar Basport Dysgu Proffesiynol y myfyriwr er mwyn dangos cyflawniad y disgrifyddion SAC o’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth (LlC, 2017). | 0 | N/A | 0 | No | 100 |
| Asynchronous Assessment | Practical Coursework 2 (Asynch) | Gwerthuso’r defnydd o Ddatblygu’r Gymraeg yn y Cwricwlwm i Gymru drwy ddylunio a chyflwyno adnodd sy’n cyfoethogi’r modd y cyflwynir y Gymraeg drwy ddull trawsgwricwlaidd. | 20 | 2000 | 20 | No | 40 |
| Asynchronous Assessment | Practical Coursework 1 (Asynch) | Cyflwyniad digidol yn seiliedig ar brofiad ysgol yn cysylltu theori ag ymarfer. Arddangos ac archwilio'n feirniadol effeithiau technoleg ddigidol trwy ddull cyfunol o ddysgu ac addysgu. | 20 | 2000 | 30 | No | 40 |
| Asynchronous Assessment | Essay 1 | • Aseiniad ysgrifenedig wedi ei lywio gan ddarllen ehangach ehangach a mewnwelediad personol er mwyn rhoi ymateb beirniadol I, ac yn cysylltu theori ac arfer am fodloni anghenion disgyblion sydd â Saesneg fel Iaith Ychwanegol (EAL). | 0 | 4000 | 50 | No | 40 |
Assessment Matrix
| Assessment Type | Learning Outcomes | |||
|---|---|---|---|---|
| LO1 | LO2 | LO3 | LO4 | |
| Practical Coursework 3 (Asynch) | ✔ | ✔ | ✔ | ✔ |
| Practical Coursework 2 (Asynch) | ✘ | ✘ | ✘ | ✔ |
| Practical Coursework 1 (Asynch) | ✔ | ✔ | ✔ | ✘ |
| Essay 1 | ✔ | ✔ | ✔ | ✔ |