ED4T005W - Arfer Myfyriol – Datblygu sgiliau ymchwil ac ymholiad er mwyn datblygu’n asiant newid. 01 Sep 2022 - 31 Aug 2028 | Version 1

Associated Module Information

Module Code: ED4T005W
Module Title: Arfer Myfyriol – Datblygu sgiliau ymchwil ac ymholiad er mwyn datblygu’n asiant newid.
Faculty: Faculty of Life Sciences and Education
Faculty Group: Education, Early Years and Social Work
Faculty Sub Group: Education
Module Leader: Claire Pescott
Module Team: Christopher Williams, Catherine Jones, Amanda Thomas, Catrin Devonald
First Intended Intake: SEP 2022 Final Year of Intake:
Date Closed:
Credit Value: 60 Credit Level: 7
Language: Welsh
Percentage of Module Taught in Welsh: 100
Equivalent Module:
HECOS codes: 100511 - primary teaching
HECOS Code Weighting: 100

Document Version Information

Version 1
Valid From 01 Sep 2022
Valid To 31 Aug 2028

Module Aims

Mireinio ac ymestyn gwerthusiad beirniadol athrawon dan hyfforddiant o hanes addysg a pholisi addysg yng Nghymru hyd at heddiw.

Ymestyn corff systematig a chydlynol o wybodaeth o fewn clwstwr o Feysydd Dysgu a Phrofiad y cwricwlwm cynradd.

Annog arloesedd a dychymyg trwy gyfuno sgiliau a gwybodaeth flaenorol mewn ystod o weithgareddau dysgu creadigol.

Mireinio a chymhwyso damcaniaethau am arfer ystafell ddosbarth ac addysgeg i ymarfer yr athrawon dan hyfforddiant eu hunain.

Datblygu ymhellach ddealltwriaeth myfyrwyr o’r Deuddeg egwyddor Addysgegol i gynnwys dealltwriaeth ddyfnach o’r ffactorau cymdeithasol a seicolegol sy’n dylanwadu ar ddysgu.

Gweithio ar y cyd ag eraill i gyfrannu at gyflawni’r disgrifyddion ar gyfer Statws Athro Cymwysedig a nodir yn y Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth (Llywodraeth Cymru, 2017).

Adolygu dogfennau polisi cwricwlwm allweddol fel rhan o fyfyrio beirniadol ac ystyried goblygiadau ar gyfer arfer personol a phroffesiynol.

Ymestyn dealltwriaeth athrawon dan hyfforddiant o faterion addysgol cyfredol er mwyn arfarnu eu heffaith ar ddysgu disgyblion a chodi safonau mewn ysgolion cynradd.

Datblygu gwerthusiad beirniadol athrawon dan hyfforddiant a’u defnydd o ymchwil addysgol, a’u profiad ysgol ymarferol eu hunain, i sefydlu cysylltiadau pellach rhwng ymchwil, theori ac ymarfer mewn cyd-destunau dysgu.

Mynd i’r afael â’r heriau sy’n gysylltiedig â chynllunio’r cwricwlwm a sut y caiff hyn ei asesu a phwysigrwydd teilwra hyn er mwyn bodloni anghenion dysgwyr.

Content Summary

Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu ymholi athrawon dan hyfforddiant, gwerthuso beirniadol a myfyrio ar y canlynol:

• Damcaniaethau ac ymchwil am addysgeg a datblygiad dynol, gan gynnwys goblygiadau i hunaniaeth, gwerthoedd ac ethos proffesiynol athro dan hyfforddiant

• Hanes addysg a pholisi addysg yng Nghymru

• Nodau, dibenion a threfniadaeth lleoliadau addysg eraill (e.e. lleoliadau Blynyddoedd Cynnar, Unedau Cyfeirio Disgyblion), a allai effeithio ar drosglwyddo dysgwyr.

• Deddfwriaeth gyfredol, gan gynnwys dealltwriaeth o'r Cwricwlwm Cymreig a gofynion iaith Gymraeg

• Gofynion amrywiol a chystadleuol ymarfer athrawon, gan gynnwys ymgysylltu'n ystyrlon ac yn adeiladol â diwygio

• Effaith dysgeidiaeth addysgegol a chymhwyso egwyddorion addysgegol i adeiladu gwybodaeth cynnwys addysgegol a gwybodaeth cynnwys addysgegol technolegol.

• Natur amrywiol a chyfnewidiol poblogaeth ysgolion Cymru a pherthnasedd hyn i addysgu a dysgu.

• Dylanwadau cymhleth ffactorau personol, cymdeithasol a diwylliannol ar athrawon a dysgwyr

• Strategaethau effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys dylunio a chynllunio'r cwricwlwm, i ddiwallu anghenion pob dysgwr o gefndiroedd diwylliannol, ieithyddol, crefyddol ac economaidd-gymdeithasol amrywiol er mwyn sicrhau tegwch.

• Strategaethau effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer cyfathrebu data asesu a data perfformiad arall yn briodol i ddysgwyr, eu rhieni/gofalwyr a chydweithwyr addysgu.

• Strategaethau effeithiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddefnyddio sgiliau llythrennedd a rhifedd, gwybodaeth a dealltwriaeth i gefnogi a datblygu dealltwriaeth dysgwyr o feysydd dysgu eraill.

• Strategaethau effeithiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddefnyddio cymhwysedd digidol, gwybodaeth a dealltwriaeth i gefnogi a datblygu dealltwriaeth dysgwyr o’u dysgu.

• Damcaniaethau rheoli'r amgylchedd dysgu i gefnogi dysgwyr i wneud cynnydd effeithiol.

• Gwybodaeth ddamcaniaethol feirniadol, dealltwriaeth a sgiliau ymarferol i ddewis, defnyddio a ‘chyfuno’ ystod eang o ddulliau a deunyddiau addysgu arloesol, wedi’u llywio gan Egwyddorion Addysgegol y cwricwlwm newydd, i ysgogi, cefnogi a herio pob dysgwr

• Cydweithio â chydweithwyr i wella canlyniadau i ddysgwyr

• Defnydd systematig o ddata i werthuso effaith ac effeithiolrwydd profiadau dysgu ac i lywio cynllunio ar gyfer y dyfodol

• Defnyddio data ysgol, rhanbarthol a chenedlaethol a thystiolaeth ymchwil i lywio ymholi gweithredu, gan ystyried y ffordd y mae athrawon yn myfyrio'n feirniadol i ddatblygu eu harfer yn yr ystafell ddosbarth ac yn effeithio ar wella ysgolion yn ehangach

Learning and Teaching Methods

Activity Type Hours
Lecture 48
Seminar 68
Tutorial 8
Project supervision 48
External visits 8
Independent Study 380
Directed Study 32
Formative Assessment - Scheduled 8
Total Hours Selected 600

Learning Outcomes

# Learning Outcome
LO1 Adolygu’n feirniadol agwedd ar gynllun datblygu ysgol presennol i gefnogi datblygiad ysgol ymhellach, gan ystyried setiau data priodol a gofynion ehangach Llywodraeth Cymru.
LO2 Adolygu a gwerthuso’n feirniadol ymchwil a dulliau addysgegol effeithiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys defnyddio technolegau digidol, i wella dysgu ac addysgu ac i fodloni anghenion pob dysgwr

Module Requisites

N/A

Assessment Criteria

Assessment Category Assessment Type Description Duration Word Count Weight (%) Best of? Pass Mark
Asynchronous Assessment Practical Coursework 1 (Asynch) • E-lyfr sy’n manylu ar fyfyrdodau am ymchwil a theori, a phrofiad o dysgu ac addysgu, sydd wedi eu cysylltu gyda chynllun datblygu ysgol. Posiect myfyriol a chritigol agos-i-arfer, sy’n gwerthuso amrywiaeth o dystiolaeth a phrofiadau. 0 5000 50 No 40
Asynchronous Assessment Portfolio 1 • Portffolio o erthyglau wedi adolygu. Traethodau yn ffocysi ar dri erthygl o gyfnadolion ac sy’n archwilio ymchwil a dulliau wedi selio ar dystiolaeth, gan roi crynodeb ac hefyd yn cysylltu’r erthyglau. 0 5000 50 No 40

Assessment Matrix

Assessment Type Learning Outcomes
LO1 LO2
Practical Coursework 1 (Asynch)
Portfolio 1

Reading List

Darllen Arwyddol - Deunyddiau Darllen Hanfodol
Baumfield, V. (2013) Action Research in Education; learning through practitioner enquiry. London Sage

Bell, D. & Ritchie R. (1999) Towards Effective Subject Leadership in the Primary School. Oxford: OUP

Boyle, C., Topping, K. (2012) What Works in Inclusion? Maidenhead: Open University Press

Coles, M., Southworth, G. (2004) Developing Leadership: Creating the Schools of Tomorrow. England. OUP

Conteh,J. (2015) 2il arg. The EAL Teaching Book. SAGE

Estyn (2008) Defnyddio data perfformiad mewn awdurdodau lleol ac ysgolion, Mawrth 2008, Caerdydd, Hawlfraint y Goron.

DCELLS (2008) Fframwaith effeithiolrwydd ysgolion : creu cymunedau dysgu effeithiol gyda'n gilydd, Caerdydd, Llywodraeth Cynulliad Cymru

Dean, J. (2004) Subject Leadership in the Primary School: A Practical Guide for Curriculum Coordinators. London: David Fulton Publishers.

Estyn (2011) Canllaw hunanarfarnu ar gyfer ysgolion cynradd 2010, Caerdydd, Hawlfraint y Goron

Estyn (2013) Gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyflawniad addysgol

Field, K., Hoult, L., Hughes, S. (2005) Improve Your Leadership Skills: 130 Management Development Activities for Middle Leaders: Readymade Tools for Subject Leaders and Middle Managers. York: Optimus Education

Goepel J, Childerhouse H, Sharpe S, (2015) Inclusive Primary Teaching. A critical approach to equality and special educational needs and disability. Critical Publishing

Grant, D. (2010). That’s the way I think: dyslexia, dyspraxia and ADHD explained. London: Routledge

Lindon, J. Webb, J. (2016) Safeguarding and Child Protection. Hodder Education

Morgan, N., Ellis, G. (2011) A Kit Bag for Promoting Positive Behaviour in the Classroom. London: Jessica Kingsley Publishers.

OECD (2014), Measuring Innovation in Education: A New Perspective, OECD Publishing, Paris.

Pollard, A. (ed) (2010) Professionalism and Pedagogy – A contemporary opportunity. A commentary by the Teaching and Learning Research Programme and the General Teaching Council for England, London: TLRP.

Pritchard, A. (2009) Ways of Learning; Learning Theories and Learning Styles in the Classroom. London: David Fulton Publishers.

Rogers, B. (2002) Classroom Behaviour: A Practical Guide to Effective Teaching, Behaviour Management and Colleague Support. London: Paul Chapman Publishing.

Shank, G., Brown, L. and Pringle, J. (2018) Understanding education research: a guide to critically reading the literature. 2il arg. Abingdon: Routledge.
(Understanding education research – Chapter 3)

Darllen ehangach o’r Gwasanaethau Llyfrgell:
https://rl.talis.com/3/southwales/lists/9A6008C0-AE98-7B9B-D631-3B0982194FE9.html?lang=en&login=1

Symonds, J. (2015) Understanding School Transition: What happens to children and how to help them. UK: Routledge.

Llywodraeth Cynulliad Cymru. (2006) Ymddygiad Yng Nghymru – Arfer Dda wrth Reoli Ymddygiad Disgyblion Sy’n Herio Ysgolion Caerdydd: Llywodraeth Cynulliad Cymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru. (2011) Diogelu Plant a Phobl Ifanc rhag Camfanteisio Rhywiol. Caerdydd:

Welsh Government (2010) Archwilio trosglwyddiadau addysg disgyblion 6 i 8 oed yng Nghymru. Llywodraeth Cymru: Caerdydd

Llywodraeth Cymru. (2014) Cyflawniad lleiafrifoedd ethnig mewn addysg yng Nghymru. Caerdydd

Llywodraeth Cymru, (2017) Rhaglen trawsnewid system anghenion dysgu ychwanegol (ADY): : https://gov.wales/sites/default/files/publications/2018-09/additional-learning-needs-aln-transformation-programme-v2.pdf (Cyrchwyd Ionawr 18fed 2020).
Deunyddiau Darllen Atodol

Burton, M., Pavord, E. and Williams, B. (2014) An Introduction to Child and Adolescent Mental Health. Sage.

Estyn. (2010). Cynlluniau a grant pontio – Arfarniad o effaith cynlluniau a grant pontio ar bartneriaethau ysgol cynradd ac uwchradd yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3. Caerdydd: Estyn.

Estyn. (2011) Cefnogi disgyblion mwy abl a thalentog mewn ysgolion cynradd, Caerdydd: Estyn

Leung, C. (2010) English as an additional language: approaches to teaching linguistic minority students. London: SAGE Publications Ltd.

Powell, S. (2012) Autism and learning: A guide to good practice. London: RoutledgeFalmer.

Llywodraeth Cynulliad Cymru, (2010), Undod ac Amrywiaeth, Caerdydd: Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Llywodraeth Cymru (2010) Cwricwlwm i bob dysgwr: Canllawiau i gynorthwyo athrawon dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol Ar gael yn:
https://dera.ioe.ac.uk/11124/1/100426curriculumforlearnersen.pdf
(Cyrchwyd: 17 Hydref 2019).

Llywodraeth Cymru (2019) Safonau Proffesiynol. Ar gael yn:
https://hwb.gov.wales/professional-development/professional-standards
(Cyrchwyd: 17 Hydref 2019)