6A001W - Addysg Gyfreithiol Glinigol 01 Sep 2026 - 31 Aug 2027 | Version 1
Associated Module Information
| Module Code: | 6A001W | ||
|---|---|---|---|
| Module Title: | Addysg Gyfreithiol Glinigol | ||
| Faculty: | Faculty of Business and Creative Industries | ||
| Faculty Group: | Law | ||
| Faculty Sub Group: | Law | ||
| Module Leader: | Hannah Menard, Hannah Coburn | ||
| Module Team: | Adam Collins, Hayley Brain, Clare Lewis, Rachel Lewis | ||
| First Intended Intake: | Final Year of Intake: | ||
| Date Closed: | |||
| Credit Value: | 20 | Credit Level: | 6 |
| Language: | Welsh | ||
| Percentage of Module Taught in Welsh: | 100 | ||
| Equivalent Module: | LC3S306 | ||
| HECOS codes: | 100485 - law | ||
| HECOS Code Weighting: | 100 | ||
Document Version Information
| Version | 1 |
|---|---|
| Valid From | 01 Sep 2026 |
| Valid To | 31 Aug 2027 |
Module Aims
Bydd y modiwl yn adeiladu ar y sgiliau cyfreithiol clinigol sydd wedi'u hymgorffori ar lefelau 4 a 5 ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr brofi amgylchedd gwasanaethau cyfreithiol.
Bydd y modiwl yn darparu sail i fyfyrwyr wneud y canlynol:
Cymhwyso eu hastudiaethau academaidd mewn lleoliad proffesiynol, go iawn, gan ddarparu cyngor cyfreithiol pro bono i aelodau'r cyhoedd ar ystod o faterion a heriau cyfreithiol.
Astudio meysydd cyfraith a chyfiawnder drwy ddysgu drwy brofiad a dysgu sy'n seiliedig ar broblemau.
Datblygu ymwybyddiaeth o'r ymddygiad proffesiynol a'r materion moesegol a fydd yn codi wrth ddarparu gwasanaethau cyfreithiol.
Myfyrio ar eu datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol parhaus, drwy gyfleoedd dysgu cydweithredol ac annibynnol.
Datblygu ymhellach sgiliau a chymwyseddau trosglwyddadwy allweddol gan gynnwys, ymhlith eraill;
Sgiliau rhyngbersonol gan gynnwys cynnal a/neu gynorthwyo gyda chyfweliadau cleientiaid wyneb yn wyneb a/neu drwy blatfform fideo
Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar
Drafftio dogfennau cyfreithiol
Sgiliau dadansoddi a datrys problemau
Sgiliau TGCh yn enwedig mewn perthynas â system rheoli achosion digidol a chronfeydd data cyfreithiol
Rheoli eich hunan a rheoli amser
Ymwybyddiaeth broffesiynol a masnachol gan gynnwys y cyfle i ymgysylltu â chyfreithwyr lleol
Ymateb yn sensitif i faterion yn ymwneud â diwylliant, amrywiaeth ac anabledd wrth ddelio â chleientiaid, cydweithwyr ac eraill
Content Summary
Nid modiwl traddodiadol a gaiff ei ‘addysgu’ yw hwn ond bydd yn cwmpasu’r cynnwys dangosol canlynol:
Cyflwyniad i sgiliau ymarfer cyfreithiol gan gynnwys ymchwil, ysgrifennu, drafftio, cyfweld a chynghori.
Cyflwyniad i gyngor a chymorth a roddir i gleientiaid mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys cyfraith cyflogaeth, cyfraith teulu, cyfraith tai, cyfraith defnyddwyr, ymgyfreitha sifil, cyfraith busnes ac ymholiadau profiant cyffredinol.
Cyflwyniad i system rheoli achosion LAC
Cyflwyniad i addysg gyfreithiol glinigol, mynediad at gyfiawnder, delio â chleientiaid sy’n agored i niwed a moeseg rhoi cyngor.
Mae'r modiwl hwn yn gofyn am ymgysylltiad myfyrwyr fel a ganlyn:
Bydd pob myfyriwr yn gwirfoddoli yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol [LAC] am o leiaf hanner diwrnod yr wythnos am 20 wythnos. Bydd hyn yn cynnwys y cyfle i gymryd rhan yn un o brosiectau LAC.
Yn ystod yr amser hwn bydd myfyrwyr yn cael eu gwahanu'n grwpiau [cwmnïau] lle byddant yn cael eu goruchwylio gan oruchwyliwr Clinig cymwys.
Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn rhaglen sefydlu lawn sy'n ymdrin â phynciau fel GDPR, cyfrinachedd, rheoli ffeiliau, cyflwyniad i systemau TG, ymddygiad proffesiynol a materion gweithredol o ddydd i ddydd. Mae'r sesiwn sefydlu yn orfodol a rhaid ei chwblhau cyn i'r lleoliad ddechrau.
Learning and Teaching Methods
| Activity Type | Hours |
|---|---|
| Lecture | 10 |
| Independent Study | 40 |
| Placement | 80 |
| Directed Study | 70 |
| Total Hours Selected | 200 |
Learning Outcomes
| # | Learning Outcome |
|---|---|
| LO1 | Tystiolaeth o ddatblygu sgiliau proffesiynol, trosglwyddadwy drwy fynychu, cwblhau ac ymgysylltu â lleoliad clinigol. |
| LO2 | Myfyrio ar y profiad lleoliad LAC a gwerthuso proffil sgiliau unigol yn effeithiol ac yn glir ar ôl y lleoliad. |
Module Requisites
N/A
Assessment Criteria
| Assessment Category | Assessment Type | Description | Duration | Word Count | Weight (%) | Best of? | Pass Mark |
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Asynchronous Assessment | Portfolio 1 | Cyflwyniad o ddeunydd penodedig a baratowyd gan y myfyriwr yn ystod cwrs neu raglen. Rhaid nodi nifer y tasgau wrth ddilysu a dyfarnu un marc cyffredinol. Bydd gofyn i fyfyrwyr lunio portffolio a fydd yn cynnwys dyddiadur myfyriol o'u gwaith yn y Clinig a ddylai gynnwys tystiolaeth o ymgysylltiad â'r Clinig ac enghreifftiau o waith myfyrwyr ynghyd ag asesiad/adborth gan oruchwylwyr a chyfoedion ar y gwaith. Bydd y portffolio yn cynnwys sawl elfen fel dyddiadur myfyriol, cynllun gweithredu sgiliau personol a chyfreithiol, gan gynnwys tystiolaeth o ymgysylltu yn y clinig ac enghreifftiau o waith myfyrwyr ynghyd ag asesiad goruchwyliwr o'r gwaith. | 0 | N/A | 100 | No | 40 |
Assessment Matrix
| Assessment Type | Learning Outcomes | ||
|---|---|---|---|
| LO1 | LO2 | ||
| Portfolio 1 | ✔ | ✔ | |