BA (Hons) with QTS Addysg Gychwynol Athrawon Cynradd gyda SAC
01 Sep 2019 - 31 Aug 2027
| Course Leader | Sallyann Seaward, Jon Moody |
|---|---|
| Course Team | Judith Penny, Catrin Devonald, Viv West, Sharon Phillips, Rachel Ford, Sarah Cook, Wendy-Lee Jones, Gareth Watkins, Catrin Devonald |
| Awarding Body | University of South Wales |
| Teaching Institutions | University of South Wales |
| Modes of Study | Full Time |
Document Version
| Version | 1 |
|---|---|
| Valid From | 01 Sep 2019 |
| Valid To | 31 Aug 2027 |
QAA Benchmarks
Educational Aim
Prif nodau'r cwrs yw cefnogi athrawon dan hyfforddiant i:
• meithrin dealltwriaeth drylwyr o drefniadaeth a rheolaeth bresennol ysgolion yng Nghymru a'r haenau o atebolrwydd o fewn y system;
• deall materion allweddol sy'n effeithio ar addysg yn rhyngwladol, yn rhanbarthol ac yn lleol;
• deall hanes ac athroniaeth addysg yng Nghymru, gan gynnwys rôl tlodi a llesiant gwael, a'i effaith ar gwricwlwm, asesu a chymwysterau;
• deall rôl y Gymraeg mewn addysg Gymraeg a datblygu defnydd athrawon dan hyfforddiant eu hunain o'r Gymraeg fel sy'n briodol i ystod oedran ac iaith cyfrwng yr ysgolion y maent yn addysgu ynddynt;
• dysgu dulliau o gynllunio a datblygu cwricwlwm sy'n seiliedig ar ddibenion a sut mae hyn yn effeithio ar ddysgu;
• datblygu arbenigedd ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad/disgyblaethau pwnc, i fodloni gofynion y 'Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth' (Llywodraeth Cymru, 2017);
• gallu nodi'r gymuned ehangach o randdeiliaid sy'n gysylltiedig â dysgwyr ysgol, gan gynnwys rhieni a gofalwyr, a deall sut i ymgysylltu â hwy i sicrhau dilyniant dysgwyr;
• deall yr ystod lawn o ddarpariaethau statudol sy'n ymwneud â'r proffesiwn addysgu, gan gynnwys Deddf Cydraddoldeb 2010 a deddfwriaeth sy'n ymwneud ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, a'i chymhwyso yn eu hymarfer eu hunain er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol;
• dysgu pa mor bwysig yw pob un o'r uchod wrth ddatblygu fel gweithwyr addysgu proffesiynol a sut y maent yn arwain at ddatblygu 'Gwybodaeth am Gynnwys Addysgeg' a 'gwybodaeth ymgorfforedig';
• dysgu sut i ddadansoddi ymchwil a phrofiadau ymarferol yn feirniadol i lunio dealltwriaeth werthusol o ddilyniant athrawon dan hyfforddiant fel gweithwyr proffesiynol ('meta-wybyddiaeth');
• dysgu sut i ymgymryd ag ymchwiliad athrawon a myfyrio beirniadol;
• datblygu ystod o sgiliau a thechnegau, wedi'u llywio gan ymchwil a myfyrio, i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth;
• gallu cynllunio ar gyfer dilyniant disgyblion ac asesu disgyblion;
• deall y broses recriwtio a dethol yn y proffesiwn addysgu er mwyn sicrhau cyflogaeth fel Athro Newydd Gymhwyso.
Learning Outcomes
| A1 | Arddangos gwybodaeth bynciol (yn cynnwys arbenigedd pwnc) a dealltwriaeth o ystod o safbwyntiau ynglyn â sut mae plant yn dysgu ac yn gweithredu medrau addysgeg priodol i gefnogi dysgu. |
| A2 | Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o bwysigrwydd arweinyddiaeth a gallu arwain prosiectau, cydweithwyr ac ymholi gweithredol fel ffordd o godi safonau. |
| A3 | Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o bwysigrwydd gweithio cydweithredol ac ar y cyd. |
| B1 | Gwerthuso ymchwil, damcaniaethau, egwyddorion, cysyniadau a gwybodaeth ffeithiol berthnasol mewn modd dadansoddol. |
| B2 | Cyfosod, dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth a data sy'n berthnasol i ystod o gyd-destunau. |
| B3 | Hunanwerthuso a myfyrio'n fanwl ar ymarfer, a gosod targedau perthnasol ar gyfer gwella. |
| B4 | Arddangos sgiliau sy'n gysylltiedig â myfyrio’n feirniadol drwy ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau. |
| C1 | Arddangos cyfrifoldeb am ddatblygiad parhaus drwy hunanfyfyrio, cynllunio gweithredol a dysgu proffesiynol. |
| C2 | Defnyddio sgiliau i ddatblygu ystod o gymwyseddau dysgu ac addysgu yn yr ysgol wedi'u hategu gan egwyddorion addysgeg perthnasol er mwyn cyflawni Statws Athro Cymwysedig. |
| C3 | Datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol i fynd i'r afael ag agweddau megis ADY ac iechyd meddwl a llesiant. |
Course Structure
Level 4 Modules
| Module Code | Module Id | Module Title | Module Status | Credit Value | Module Type |
|---|---|---|---|---|---|
| ED1D002W | MOD011991C | Astudiaethau pwnc 1A | Running | 40 | core |
| ED1S035W | MOD011986C | Astudiaethau craidd 1 | Running | 20 | core |
| ED1S036W | MOD011989C | Astudiaethau proffesiynol ac addysgegol 1 | Running | 20 | core |
| ED1S037W | MOD011992C | Astudiaethau pwnc 1B | Running | 20 | core |
| ED1S038W | MOD011993C | Dysgu a datblygiad proffesiynol (profiad ysgol) | Running | 20 | core |
Level 5 Modules
| Module Code | Module Id | Module Title | Module Status | Credit Value | Module Type |
|---|---|---|---|---|---|
| ED2D002W | MOD011996 | Astudiaethau pwnc 2A | Running | 40 | core |
| ED2S073W | MOD011994C | Astudiaethau craidd 2 | Running | 20 | core |
| ED2S074W | MOD011995 | Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol 2 | Running | 20 | core |
| ED2S075W | MOD011997 | Astudiaethau pwnc 2B | Running | 20 | core |
| ED2S076W | MOD011998 | Dysgu a datblygiad proffesiynol (profiad ysgol) 2 | Running | 20 | core |
Level 6 Modules
| Module Code | Module Id | Module Title | Module Status | Credit Value | Module Type |
|---|---|---|---|---|---|
| ED3D002W | MOD012001 | Astudiaethau pwnc 3A | Running | 40 | core |
| ED3S029W | MOD011999C | Astudiaethau craidd 3 | Running | 20 | core |
| ED3S030W | MOD012000C | Astudiaethau proffesiynol ac addysgegol 3 | Running | 20 | core |
| ED3S031W | MOD012002C | Astudiaethau pwnc 3B | Running | 20 | core |
| ED3S032W | MOD012003C | Dysgu a datblygiad proffesiynol (profiad ysgol) 3 | Running | 20 | core |
Teaching and Assessment
Learning and Teaching Methods
Employer Engagement
Siaradwyr gwadd
Bydd siaradwyr gwadd o ysgolion partneriaeth arweiniol yn cael eu recriwtio i ddarparu mewnbynnau ar y campws ac mewn lleoliadau ysgol. Darperir mewnbwn gan ddarlithwyr eraill a delir fesul awr ac, yn achlysurol, gan siaradwyr gwadd eraill hefyd.
Gwirfoddoli
Fel arfer, ategir lleoliadau ysgol ym mhob blwyddyn gan ymweliadau gwirfoddol ychwanegol ag ysgolion.
Gwaith Maes
Gweithgareddau cyfoethogi mewn safleoedd addysgol fel Canolfan Gweithgareddau Gilwern.
Teithiau Maes
Cyfleoedd i ymgymryd â phrosiectau ymholi gweithredol mewn lleoliad rhyngwladol.
Lleoliadau Gwaith
Mae angen lleoliadau ysgol sefydledig ym mhob blwyddyn gan mai'r bwriad yw i'r cyrsiau hyn gael achrediad proffesiynol ac yn argymell y dyfarniad ar gyfer SAC.
Dysgu Seiliedig ar Waith
Cyfleoedd i gymryd rhan mewn dysgu a datblygiad proffesiynol mewn lleoliadau ysgol gan wneud defnydd o Astudiaeth Gwersi fel rhan o ymarfer sy'n seiliedig ar ymchwil.
Fforymau Cyflogwyr
Cynhelir fforwm ddwywaith y flwyddyn ar gyfer athrawon dan hyfforddiant sy’n cynnwys Cyngor y Gweithlu Addysg ac undebau athrawon cenedlaethol i drafod paratoi ar gyfer apwyntiadau cyntaf.
Arall
Mae pob aelod o'r tîm yn cydnabod pwysigrwydd iechyd a lles. Yn ogystal â chynnwys y cwrs, caiff y rhaglen Cymorth i Fyfyrwyr (SAP) ei chynnig hefyd ym mhob blwyddyn astudio.
Means of Assessment
Learning Support
Sefydlu
Bydd sefydlu yn digwydd yn unol â disgwyliadau'r Brifysgol a'r Gyfadran er mwyn cynorthwyo athrawon dan hyfforddiant i ddatblygu dealltwriaeth broffesiynol o gyfrifoldebau penodol sy'n ymwneud ag addysg athrawon.
Tiwtor Personol
Bydd myfyrwyr yn cael tiwtor personol a fydd yn rhan o'r staff addysgu craidd ar gyfer eu grwp blwyddyn a byddant yn cefnogi myfyrwyr drwy gydol y rhaglen AGA.
Oriau swyddfa
Bydd tiwtoriaid yn darparu amseroedd rheolaidd pan fyddan nhw ar gael i gysylltu â nhw, yn ogystal â gweithio'n agos gyda'r cohort yn y dosbarth.
Tiwtorialau
Cynhwysir tiwtorialau unwaith y tymor yn yr amserlen.
Seminarau
Defnyddir grwpiau llai o faint grwp seminar ar gyfer trafod prosiectau a gwaith datblygu personol.
Asesu Ffurfiannol
Ymgorfforir asesu ffurfiannol ym mhob modiwl ac fe’i defnyddir i gefnogi datblygiad sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr.
Cyfarfodydd Cynnydd
Ymgorfforir cyfarfodydd cynnydd mewn tiwtorialau drwy linyn ymarfer integreiddiol y modiwlau.
Goruchwyliaeth Ymchwil
Neilltuir goruchwylwyr unigol i roi cymorth i bob myfyriwr ar gyfer elfen cynnig ymchwil modiwlau dysgu a datblygu proffesiynol.
Adnoddau Ar-lein
Bydd deunyddiau dysgu ar gael drwy'r VLE (Blackboard). Bydd gwybodaeth ar gael drwy’r VLE a gwneir cyhoeddiadau hefyd drwy'r VLE. Mae adnoddau ychwanegol ar gael i hyrwyddwyr digidol eu defnyddio mewn sesiynau yn y brifysgol ac ar leoliad ysgol i gefnogi staff academaidd a myfyrwyr.
Ardaloedd Cynghori
Mae ardal gynghori ar gael ar Gampws Dinas Casnewydd.
http://newportcitycampus.southwales.ac.uk/newport_advice_zone/
Gwasanaeth DDS
Mae hwn ar gael ar gampws Dinas Casnewydd.
https://thehub.southwales.
TG/Llyfrgell
Mae cymorth TG a chyfleusterau llyfrgell ar gael ar gampws Dinas Casnewydd.
http://studentit.southwales.ac.uk/
ac.uk/Interact/Pages/Section/SubFullOne.aspx?subsection=5628
Course Exit Points
| Award | Criteria | Final |
|---|---|---|
| Bachelor of Arts (with Honours) | 360 credyd y mae'n rhaid i o leiaf 100 ohonynt fod yn lefel 6 neu'n uwch, 120 ar lefel 5 neu uwch, 120 ar lefel 4 uchod BA (Anrh) Addysg Gychwynnol Athrawon Cynradd | Final |
| Bachelor of Arts (with Honours) | 360 credyd y mae'n rhaid i o leiaf 100 ohonynt fod yn lefel 6 neu'n uwch, 120 ar lefel 5 neu uwch, 120 ar lefel 4 uchod BA (Anrh) Astudiaethau Cynradd | Final |
| Diploma of Higher Education | 240 credyd y mae'n rhaid i o leiaf 100 ohonynt fod ar Lefel 5 neu uwch, 120 o gredydau ar Lefel 4 neu uwch a dim mwy nag 20 credyd ar Lefel 3. Diploma Addysg Uwch Astudiaethau Addysg Gynradd. | Exit |
| Certificate of Higher Education | 120 credyd y mae'n rhaid i o leiaf 100 ohonynt fod ar Lefel 4 neu uwch a dim mwy na 20 ar Lefel 3. Tystysgrif Addysg Uwch Astudiaethau Addysg Gynradd. | Exit |
Progression Route
Astudiaeth Lefel 7: MA mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Addysg) yn PDC
Entry Requirements
Admission to the course is typically through the following qualifications:
Er mwyn sicrhau bod gan yr ymgeisydd y ddawn, y gallu a'r gwydnwch i gwblhau'r cwrs ac ennill SAC, mae'r Bartneriaeth yn pennu'r gofynion mynediad academaidd er mwyn sicrhau bod yr ymgeisydd yn gallu cael mynediad llwyddiannus i'r cwrs.
Mae meini prawf mynediad yn manylu ar gynigion nodweddiadol, ond mae'r bartneriaeth yn ystyried pob cais ar sail unigol, sy'n golygu y gwneir cynigion ar sail cymwysterau, proffil personol a phrofiad, yn ogystal ag arddangosiad ymgeiswyr o'r gallu i ddatblygu cymwyseddau dechreuwyr Lefel uchel y mae eu hangen ar bob athro dan hyfforddiant ar ddechrau eu cwrs, ac sy'n cael eu profi yn y cyfweliad:
Deall a gweithio gyda gwybodaeth ac ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth (drwy feirniadu erthygl cyfnodolyn yn y cyfweliad);
Dealltwriaeth o agwedd a chapasiti dysgu'r ymgeisydd ei hun ar gyfer myfyrio beirniadol (a archwilir yn y cyfweliad);
Galluogi eraill i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth (drwy addysgu sgìl i grwp bach yn y cyfweliad);
Ymwneud â gwahanol gynulleidfaoedd, gan gynnwys dysgwyr, cefnogwyr dysgu yn y Sefydliadau Addysg Uwch ac yn yr ysgol a rhanddeiliaid eraill (drwy gynnwys athrawon/arweinwyr ysgolion partner a dysgwyr yn y panel cyfweld a thrwy gyd-ddatblygu cwestiynau a ofynnir yn y cyfweliad a'r broses gyfweld).
Cyhoeddir tariffau mynediad safonol ar wefan PDC ac mae angen tariff UCAS o 112 o bwyntiau. Mae ar bob ymgeisydd hefyd angen o leiaf gradd B (neu gymhwyster cyfatebol) mewn Saesneg iaith a Mathemateg a gradd C/gradd 4 mewn gwyddoniaeth ar y pwynt mynediad ar unrhyw gwrs AGA. Mae cyfuniadau o gymwysterau yn dderbyniol a gall cymwysterau eraill nad ydynt wedi'u rhestru fod yn dderbyniol hefyd ac fe’u hystyrir fesul achos.
Mae angen gwiriad manylach gan y GDG a chofrestru gyda'r gwasanaeth diweddaru hefyd ar gyfer y rhaglen hon - anfonir y manylion at yr ymgeiswyr ar yr adeg briodol.
Cynnig Safon Uwch Nodweddiadol: BBC i ddiystyru Astudiaethau Cyffredinol
Cynnig Bagloriaeth Cymru Nodweddiadol - Gradd C a BB mewn Safon Uwch i ddiystyru Astudiaethau Cyffredinol
Cynnig BTEC Nodweddiadol - Cymhwyster Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod
Cynnig Bagloriaeth Ryngwladol Nodweddiadol - 29 pwynt i gynnwys 16 pwynt ar Lefel Uwch.
Cynnig Nodweddiadol Mynediad i AU - Pasio gyda 60 o gredydau yn gyffredinol i gynnwys 45 credyd ar Lefel 3 sy'n cyfateb i 15 Rhagoriaeth, 21 Teilyngdod a 9 Pasio
Arall:
TGAU: Mae’r SAU yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Gradd B neu uwch (ar gyfer rhaglenni AGA) a Gradd C mewn Gwyddoniaeth.
Mae'r Gweithdrefnau Dethol yn cynnwys:
Cais
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddangos yn eu cais:
Proffil TGAU addas a graddau wedi’u rhagfynegi priodol ar Lefel 3.
Sgiliau llythrennedd o ansawdd uchel, gan gynnwys Cymraeg, lle maent yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Meddylfryd, gwerthoedd a chymhelliant priodol, fel y gwelir yn y datganiad personol.
Dealltwriaeth o'r sector addysg yn gyffredinol, fel y gwelir yn y datganiad personol.
Digwyddiad Dethol
Cynhelir y digwyddiad dethol ar y campws ond cynhelir y broses ddethol ar y cyd gan y SAU a phartneriaid ysgol. Mae'r digwyddiad yn cynnwys yr elfennau canlynol:
Deall a gweithio gyda gwybodaeth ac ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth (drwy drafod erthygl fer mewn cyfnodolyn a roddwyd cyn y cyfweliad)
Asesir gallu ymgeiswyr i ddeall a dysgu o wybodaeth ac ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth drwy drafod erthygl fer mewn cyfnodolyn.
Galluogi eraill i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth (drwy gyflwyniad byr).
Prawf Llythrennedd a Rhifedd
Profir sgiliau llythrennedd a rhifedd ymgeiswyr drwy brawf ar-lein, a thrwy hynny hefyd profir sgiliau cymhwysedd digidol sylfaenol.
Cyfweliad
Caiff pob ymgeisydd ei gyfweld gan banel sy'n cynnwys darlithydd mewn SAU a chynrychiolydd ysgol. Profir y cymwyseddau canlynol yn y cyfweliad:
Sgiliau rhyngbersonol priodol, gan gynnwys y gallu i uniaethu â chynulleidfa broffesiynol ac academaidd, Cymhelliant addas ar gyfer addysgu; Dealltwriaeth o rai neu bob un o'r ffactorau sy'n effeithio ar ddysgu; Dealltwriaeth o rôl y Gymraeg ac ymrwymiad i barhau i wella eu sgiliau iaith Gymraeg.
Iechyd a'r gallu corfforol i addysgu
Bydd pob ymgeisydd wedi bodloni gofynion y Safonau Iechyd Addysg cyn dechrau ar y rhaglen. Dilynir rhwymedigaethau statudol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010) a rhoddir addasiadau rhesymol ar waith i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn y broses ymgeisio neu tra eu bod ar y rhaglen AGA. Mae aelodau staff yn bodloni'r gofynion statudol a osodir ar y sefydliad gan y PSED. Asesir iechyd a gallu corfforol ymgeiswyr i addysgu yn ystod y digwyddiad dethol hwn drwy drafodaeth yn yr elfen gyfweld o'r digwyddiad. Gellir asesu ffitrwydd i ymarfer athro dan hyfforddiant am nifer o resymau, er enghraifft problem yn ymwneud â chyffuriau/alcohol, troseddau ymddygiad troseddol neu ddisgyblu, afiechyd meddwl neu unrhyw gyflwr neu anhwylder a fyddai'n cael effaith andwyol ar berfformiad yr athro dan hyfforddiant. Mae'r Bartneriaeth yn ymfalchïo yn y seilwaith cymorth y mae'n ei ddarparu ar gyfer yr ymgeiswyr hynny y gallai fod angen gwneud addasiadau ar eu cyfer er mwyn iddynt allu cael mynediad i'r cyrsiau. Mae rhaglen ddatblygu drylwyr a pharhaus ar waith i sicrhau bod pob aelod o staff Sefydliadau Addysg Uwch ac ysgol yn gyfredol ar sail y rhwymedigaethau statudol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a'r gofynion statudol a osodir ar y sefydliad yn ei gyfanrwydd gan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED).
Yn ogystal â'r cymwysterau ffurfiol, fel arfer mae angen profiad gwaith gyda phlant mewn lleoliad addysgol. Gall hyn fod, er enghraifft, yn waith amser llawn neu ran-amser gyda thâl neu waith gwirfoddol mewn lleoliad addysgol.
Dylai'r profiad gwaith gyfateb i o leiaf deg diwrnod a rhaid ei gwblhau fel arfer cyn cyflwyno cais. Bydd gofyn i'r myfyriwr egluro sut y mae wedi bodloni'r gofyniad hwn yn ei ddatganiad personol. Efallai y gofynnir i'r ymgeisydd gyflwyno tystlythyr ychwanegol yn ymwneud â'i brofiad gwaith, gan gadarnhau ei fod wedi cwblhau'r deg diwrnod gofynnol mewn lleoliad addysgol.
Gwiriad manylach gan y gwasanaeth datgelu a gwahardd (DBS) ar y rhestr gweithlu plant a gwahardd plant a'r tanysgrifiad i wasanaeth diweddaru'r DBS. (Yr hyn sy'n ofynnol dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn y DU)
Inclusive Curriculum Statement
The University of South Wales operates a policy of inclusive learning, teaching and assessment to ensure that all students have an equal opportunity to fulfil their educational potential. Course teams will have considered ways of designing out any potentially disadvantageous element of courses during the course design process. However some specific needs may remain, details about how to apply to have your needs assessed can be found at: http://unilife.southwales.ac.uk/pages/3040-disability-and-dyslexia-service/
Addendum for Delivery at a Partner Institution
N/A
Methods Of Quality Standards
N/A
Quality Of Standards Indicators
N/A